Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Pigion Dysgwyr 5ed Mawrth 2021


Listen Later

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Sioe Frecwast - Andria Doherty

Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes…

Cyfres - Series

Gwallgo(f) - Mad

Dros ben llestri - Over the top

Ymateb - Response

Poblogaidd - Popular

Enfawr - Huge

Ysgytwol - Mind-blowing

Diweddar - Recent

Adrodd - Recitation

Ychwanegolion - Extras

Nathan Brew

Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl.
Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Brew. Gan fod y penwythnos diwetha yn un pwysig iawn i dîm rygbi Cymru oherwydd y gêm fawr yn erbyn Lloegr, roedd hi’n amserol iawn i Nathan sôn am obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Sylwebydd - Commentator

Amserol - Timely

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations

Synnu - Surprised

Ysbryd - Spirit

Anafiadau - Injuries

Yn hytrach na - Rather than

Ymarfer - Training

Rheolau - Rules

Lleihau - To reduce

Byd Iolo Williams

Roedd Nathan Brew yn optimistaidd yn fan’na am obeithion Cymru, ac roedd o yn iawn – enillodd Cymru o 40 – 24. Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru on’d ife?

Yn rhaglen Byd Iolo wythnos diwetha buodd Iolo Williams yn dweud wrthon ni sut mae e wedi ymdopi gyda chyfnod anodd y pandemig…

Ymdopi - To cope

Cynffon - Tail

Heb os nac oni bai - Without doubt

Andros o anodd - Terribly difficult

Bywyd gwyllt - Wildlife

Ar gyrion - On the outskirts

Ffodus - Lwcus

Deutha chi - Dweud wrthoch chi

Yn llythrennol - Literally

Goroesi - To survive

Dros Ginio - Edwina Williams

Iolo Williams yn fan’na yn esbonio sut mae o wedi ymdopi gyda chyfnod y pandemig.
Dych chi’n gwisgo het? Oes het-fobl yr Urdd gyda chi? Roedd digon o angen het yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwetha, ond ydy gwisgo het wedi dod yn rhywbeth ffasiynol erbyn hyn?
Dyma farn Edwina Williams Jones ...

Cynllunydd - Designer

Dilledyn ymarferol - A practical clothing

Toreth - An abundance

Crasboeth - Boiling hot

Yn y cysgod - In the shade

Achlysuron - Occasions

Cefnogaeth - Support

Geraint Lloyd - casglu ceir

Y cynllunydd Edwina Williams Jones oedd oedd honna’n trafod hetiau gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio.

Nid hetiau ond hen geir ydy diddordeb Sharon Jones Williams o Bentre Berw ar Ynys Môn. Roedd Geraint Lloyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda hi a chlywed am hanes yr hen Mercedes sy gan y teulu

Cau - To refuse

Miri - Fuss

Gynnau - A moment ago

Tyrchu - To rummage

(y)myrraeth - Curiosity

Chwilota - To search for

Dewi Llwyd - Osian Roberts

Hanes diddorol Mercedes Sharon o Bentre Berw oedd hwnna, ar raglen Geraint Lloyd.
Osian Roberts oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Fe yw cyfarwyddwr technegol tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco, swydd fuodd e’n ei gwneud gyda thîm pêl-droed Cymru yn y gorffennol. Ond fel clywon ni yn y sgwrs gyda Dewi mae gan Osian sgiliau y tu hwnt i fyd y bêl…

Cyfarwyddwr technegol - Technical Director

Y tu hwnt - Beyond

Fy ngorwelion i - My horizons

Digrifwr - Comedian

Llefaru - To recite

Trin geiriau - To have a way with words

Sbïo - Edrych

Siarad cyhoeddus - Public speaking

Datblygu - To develop

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,696 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,432 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,795 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,773 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,072 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,120 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,928 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,058 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

268 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

84 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

342 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

120 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

102 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

140 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

296 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,173 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,193 Listeners

Americast by BBC News

Americast

740 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,038 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,173 Listeners