Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021


Listen Later

1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green

Mae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia

Diwylliannol Cultural

Her A challenge

Dealledig Understood

Ariannin Argentina

Addasu To modify

Tŷ Gwydr Tŷ haul/conservatory

Cyffredin Common

Osgoi To avoid

Y golygoddion The editors

Penodol Specific

2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeaf

Fasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny’n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi…

Dyfrio To water

Gor-ddyfrio Overwatering

Canolbwyntio To concentrate

Oes tad Yes indeed

Amsugno To absorb

Dyfnder Depth

Gadael iddyn nhw fod To let them be

Goleuni Light

Tymheredd cyson Constant temperature

Rheiddiadur Radiator

3. Gwneud Bywyd yn Haws – Teleri James Jones

Digon, ond nid gormod o ddŵr felly i gadw’n planhigion tŷ yn fyw ac yn iach dros fisoedd y gaeaf, dyna gyngor Naomi Saunders i ni. Cynghorion ar sut i leihau gwastraff glywon ni ar Gwneud Bywyd yn Haws. Wrth edrych ymlaen at Cop26 mae Radio Cymru wedi bod yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd gyda chyfres o raglenni arbennig Ein Planed Nawr. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd y Haws, clwyon ni Teleri James Jones yn sôn am ei hobi o werthu a phrynu yn ail law ar y we er mwyn lleihau

gwastraff…

Cynghorion Advice

Lleihau gwastraff To reduce waste

Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis

Ail-law Second hand

Newydd sbon Brand new

Cael gwared ar To get rid of

Dodrefn Furniture

4. Beti George – Paula Roberts

Teleri James Jones oedd honna’n siarad gyda Hanna Hopwood am ei harfer o werthu yn ail law drwy’r we er mwyn lleihau gwastraff. I glywed y rhaglen i gyd ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, ble cewch chi glywed yn ogystal gyfweliad gyda Gwenllian Williams sy’n sôn am Eco Bryder

Cafodd Beti George sgwrs gyda’r Dr Paula Roberts sydd yn darlithio mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Paula wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ond am ei hanes yn seiclo yng Ngogledd Affrica byddwn ni’n clywed yn y clip nesa...

Eco Bryder Eco anxiety

Darlithio To lecture

Gwyddorau Naturiol Natural Sciences

Bwlch Pass

Bugeilio defaid Shepherding sheep

Cerrig Stones

Amlwg Obvious

Braw Fright

Copa Summit

Hŷn Henach

Denu sylw To draw attention

5. Bryn Tomos – Leisa a Duncan Brown

Hanes taith ddifyr a pheryglus Paula Roberts yn Morocco oedd hwnna ar Beti a’i Phobol. Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, gan ddechrau ei thaith gyda’i thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Dyma Leisa a Duncan yn edrych ymlaen at y rhaglen gyda Bryn Tomos...

Amgylchedd Environment

Y frwydr i atal The fight to stop

Cynnwys To include

Mawndir Peatland

Gwair Grass

Gwrthsefyll llifogydd to withstand flooding

Arloesol Innovative

Hynod o falch Very proud

Tynna’r goes arall Pull the other leg

6. Geraint Lloyd – Dr Wynne Davies

Rhaglen ddiddorol ac amserol iawn arall ar Radio Cymru ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ . Derbyniodd Dr Wynne Davies un o brif wobrwyon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sef Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd a derbyniodd Fedal Arian y Gymdeithas yn ogystal. Dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Geraint Lloyd gyda Dr Wynne Davies ble mae e’n sôn am ei gysylltiad hir iawn â’r Gymdeithas, a’r Sioe Frenhinol...

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru The Royal Welsh Agricultural Society

Gwobrwyon Awards

Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd Honorary Life Vice President

Sylweddoli To realise

Olrhain hanes To trace the history

Merlod Ponies

Achau Pedigree

Pencampwriaeth Championship

Rhyfel War

Bridfa Stud farm

Pedolau Horseshoes

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,696 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,432 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,795 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,773 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,072 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,120 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,928 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,058 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

268 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

84 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

342 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

120 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

102 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

140 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

296 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,173 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,193 Listeners

Americast by BBC News

Americast

740 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,038 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,173 Listeners