Exploring Global Problems

10. Ffuglen Wyddonol a’i lle yn yr iaith Gymraeg, Dr Miriam Elin Jones


Listen Later

Beth yn union yw ffuglen wyddonol, a sut mae genre o’r fath yn ein helpu i archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd? A all genre sy’n cael ei weld fel genre sy’n drwm dan ddylanwad diwylliant ‘Eingl-Americanaidd’, ac sy’n portreadu heb eu tebyg, fod yn berthnasol i ddiwylliannau lleiafrifol heddiw?
Yn y bennod hon, mae Dr Miriam Elin Jones, mewn sgwrs ag Elin Rhys, yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymraeg, drwy bortreadu tranc iaith a pherthynas iaith a thechnoleg.
 
Mae Dr Miriam Elin Jones yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr ym maes ffuglen wyddonol y Gymraeg. Datblygodd ei hymchwil yn sgil ei diddordeb yn y modd y mae’r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg, a goblygiadau tranc iaith i gymdeithas a’i diwylliant yn cael eu harchwilio mewn ffuglen wyddonol yn Gymraeg.
Ar hyn o bryd, mae Dr Jones yn rhan o Rwydwaith Adrodd Newid Gwledig, sy’n cyfuno ei magwraeth wledig a’i hymchwil i ddadansoddi portreadau o ffermio a bywyd yng nghefn gwlad mewn testunau ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Yn llenor a dramodydd, mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn beirniadaeth greadigol ac archwilio’r berthynas rhwng beirniadaeth ac ysgrifennu creadigol.
...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Exploring Global ProblemsBy Swansea University


More shows like Exploring Global Problems

View all
Radiolab by WNYC Studios

Radiolab

43,967 Listeners