Mewn cyfres podlediad newydd, golwg360 sy'n craffu ar waith rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru.
Yn y bennod gyntaf, ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen sy'n ymweld â Chaerfyrddin i gwrdd ag Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru gafodd ei hethol dros yr etholaeth newydd sbon.
Sut all pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru ddylanwadu ar San Steffan a'i 650 o aelodau? Beth yw ei barn hi am ddyddiau cynnar y Llywodraeth Lafur newydd yn Llundain? Pwy yw ei harwr? Sut mae ei dydd Sul delfrydol yn edrych?
Hyn a llawer mwy ar Craffu360...