Crëwyd y bennod podlediad arbennig hon gan ein Dewiniaid Digidol, a fu'n cyfweld â dau o'ndisgyblion presennol ym Mlwyddyn 12 cyn iddynt adael am Ysgol Ofod NASA yr haf hwn.
Yn ystod y podlediad, mae'r disgyblion yn trafod eu taith at ennill lle ar y rhaglen fawreddog hon, eu hangerdd dros bynciau STEM, a'u cyffro am y cyfleoedd sydd yn eu disgwyl yn yr Unol Daleithiau. Mae Ysgol Ofod NASA yn dod â phobl ifanc dalentog o bob cwr o'r byd ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â'r gofod, heriau peirianyddol a phrosiectau cydweithredol.
Rydym yn hynod falch o'u cyflawniadau ac yn gobeithio y byddwch yn mwynhau clywed eu straeon ysbrydoledig cyn iddynt gychwyn ar yr antur fythgofiadwy hon