Ar Y Soffa

Ar y Ffin


Listen Later

Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Wooward yn trafod y ddrama newydd sydd ar y gweill ar S4C, Ar y Ffin.
 
Mae Ar y Ffin yn dilyn yr Ynad profiadol, Claire Lewis Jones, yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a’i theulu mewn peryg. Wrth i’r gwirionedd gael ei ddatgelu a chanlyniadau ddod i’r amlwg, rhaid i Claire wynebu ei rhagfarnau a’i phenderfyniadau ei hun. Daw’r ffin rhwng beth sy’n gywir ac anghywir yn annelwig, wrth i reddf famol Claire wrthdaro gyda’i hymrwymiad i gynnal y gwirionedd. 
 
Felly, beth yw barn Gwilym a Kate ar ôl gwylio’r ddwy bennod gyntaf?
 
Bydd y bennod gyntaf o Ar y Ffin i’w gweld ar S4C am naw o’r gloch nos Sul (29ain o Ragfyr), gyda’r holl benodau eraill ar gael ar Clic neu BBC iPlayer yn dilyn darlledu’r bennod gyntaf.


...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Ar Y SoffaBy Golwg Cyf.