Sign up to save your podcasts
Or
Gyda'r etholiadau ar Fai'r 6ed, addas yw cael sylwebydd gwleidyddol ar y podlediad wythnos hon. Gwr ifanc, deallus, diymhongar o Lanelli â phen gwybodus iawn ar ei ysgwyddau. Theo Davies-Lewis, erbyn hyn, yw prif golofnydd y fenter newydd The National (a sefydlydd y fenter, Huw Marshall, fydd ar y podlediad cyn bo hir), ac yn ogystal â chyfrannu at bapurau a chylchgronau cenedlaethol, mae Theo a'i galon yng Nghymru ac yn cryfhau cysylltiadau Cymreig yn Llundain. Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Theo oedd rhai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth draw ata i am brofiad gwaith yn yr adran dywydd. Mae e 'di esblygu a datblygu tipyn ers hynny a braf oedd cael sgwrsio â'r gwr ifanc yma am wleidyddiaeth, Cymru, ei yrfa hyd yn hyn, Coleg Rhydychen a phob math o bethau! Wnes i rili fwynhau a gyda'r bennod yn dechrau ar ddiwrnod yr etholiadau, mae hon yn arbennig o ddiddorol.