Yr Haclediad

Episode 2: Yr Ail Ddyfodiad


Listen Later

Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?!

Wele Haclediad #2.

Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig.

Buom ni’n trafod:

  • 2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru?
  • Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad?
  • Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn?
  • Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr?
  • Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn?
  • Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com.
  • Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar [email protected], neu drwy drydar.

    Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi!

    Criw’r Haclediad

    The post Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

    Support Yr Haclediad

    ...more
    View all episodesView all episodes
    Download on the App Store

    Yr HaclediadBy Haclediad


    More shows like Yr Haclediad

    View all
    My Therapist Ghosted Me by Global

    My Therapist Ghosted Me

    808 Listeners