Am Waith Cymdeithasol

Gofalwyr Ifanc


Listen Later

Gofalwyr Ifanc: Adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sydd hefo cyfrifoldebau gofalu o fewn ein cymunedau ni

Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r drydedd bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.

Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

Yn y rhifyn yma mae Rhian Lloyd (Darlithydd Gwaith Cymdeithasol), Ffion Wynne Edwards (Swyddog Gofalwyr Ifanc, Cyngor Gwynedd), a Maria Bulkeley a Marti Hordle o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ynys Môn a Gwynedd (Gweithredu Dros Blant) yn trafod y pwysigrwydd o drio adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc o fewn ein cymunedau ni.

Fyddech yn clywed am hunaniaeth pobl ifanc, gwahanol gyfrifoldebau sydd gan ofalwyr ifanc, a sut i gefnogi unigolion i drafod eu sefyllfaoedd personol.

Hefyd fyddech yn clywed am yr elusen Gweithredu Dros Blant a’r math o gefnogaeth sydd ar gael ar draws Ynys Môn a Gwynedd i ofalwyr ifanc.

Mae Gweithredu Dros Blant hefo tudalen facebook @GofalwyrIfancYnysMonGwynedd a Instagram: @afcgofalwyrifanc_mon_a_gwynedd
...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Am Waith CymdeithasolBy Prifysgol Bangor