Mae Dr Rhys ap Gwilym yn Uwch Ddarlithydd Economeg yn Ysgol Busnes Bangor ac wedi bod yn ymwneud â phrosiect ymchwil sydd wedi cynghori ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynlluniau Treth Twristiaeth Cymru. Gwyddom oll y gall treth fod yn gymhleth ac yn aml-haenog! Felly sut mae ymchwilydd yn mynd ati i ddadbacio mater mor gymhleth? Dewch i ni glywed am broses ymchwil Rhys, yr hyn a wnaeth a’r hyn a ddysgodd ar hyd y ffordd i wneud deall treth dwristiaeth yn llai cymhleth!
Mae gan Rhys ddiddordeb mawr mewn polisi datblygu rhanbarthol a’i rôl yng Nghymru yn arbennig. Mae wedi bod yn brif ymchwilydd ar ddau brosiect ymchwil a ariannwyd gan grantiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â threth gwerth tir a threthi twristiaeth. Mae’n aelod o Grŵp Polisi Economaidd y Sefydliad Materion Cymreig, lle bu’n ymwneud â datblygu papurau trafod ar economi Cymru. Yn ddiweddar cyfrannodd at “banel arbenigol ar sylfaen drethi Cymru a goblygiadau i bolisi cyhoeddus”.