Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.