Yr Haclediad

Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012


Listen Later

Rhifyn arbennig O’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr.
Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR
O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos…
Dolenni
Ap Yr Eisteddfod
4G erbyn eisteddfod 2013
Stiwdio gwellt ar y Maes Gwyrdd
Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩
The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Yr HaclediadBy Haclediad


More shows like Yr Haclediad

View all
My Therapist Ghosted Me by Global

My Therapist Ghosted Me

815 Listeners