Sign up to save your podcasts
Or

Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Elin Fflur a chael croeso mawr yn ei chartref. Rhwng edmygu celf Nain, canu o amgylch y piano a herio’i gilydd wrth y bwrdd dartiau, mae digon o hwyl a helynt i’w gael. Ond pam ar wyneb y ddaear mae’r addurniadau Dolig i fyny ym mis Tachwedd?!
Mae Llŷr a Lisa yn ôl, yn busnesu o gwmpas cartrefi rhai o enwau adnabyddus Cymru.
Pwy fydd yn cadw cwmni i Llŷr a Lisa y tro 'ma? Cliw i chi, mae nhw'n mwynhau sgwrsio gyda'u Pobol, boed hynny mewn stiwdio radio neu dan y lloer. Pwy fydd yn holi pwy???
Penodau newydd o Ding Dong ar gael ar 20 Hydref a 03 Tachwedd.
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg.
Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am Galan Gaeaf ac ysbrydion.
Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.
Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl.
O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.

Aled Hughes a'r hanesydd Mari Wiliam sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl, mewn cyfres newydd sy'n cyhoeddi ar Fedi'r 8fed 2026.
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg.
Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am ddechreuadau newydd ac am ail gychwyn pethau.
Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.
Mae Francesca a Stephen yn ôl, yn trafod mwy o eiriau. Hoff eiriau, cas eiriau, geiriau sydd â hanes diddorol, tafodiaith ... tanysgrifiwch i gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi.
Gwennan Young sy'n sgwrsio gyda Bethan Richards am ei gwaith yn y maes celfyddydau hygyrch a'r heriau o fyw bywyd gyda nam golwg etifeddol ar hyd ei hoes.
Mae Gwennan yn trafod ei gwaith yn defnyddio'r celfyddydau i feithrin hyder ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion anabl, gan bwysleisio sut y gall creadigrwydd roi llais i bobl sy'n aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed. Mae hi hefyd yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chyflyrau llygaid cymhleth sydd wedi effeithio sawl cenhedlaeth o'i theulu, gan gynnwys ei rhieni, ei chwaer a'i merch hynaf.
Mae Gwennan yn cofio heriau plentyndod ac ysgol, gan drafod bwlio, yr awydd i "ffitio i mewn", a'r rhwystrau y mae pobl â nam golwg yn eu hwynebu mewn addysg.
Yn fwy diweddar, fel mam i ferch a etifeddodd ei chyflwr llygaid, mae wedi profi straen emosiynol a brwydr gyson i sicrhau'r gefnogaeth gywir iddi yn yr ysgol. Yn y pen draw, symudodd ei merch, Catrin, i goleg arbenigol i bobl â nam golwg, penderfyniad a drawsnewidiodd ei bywyd. Mae'r bennod hefyd yn edrych ar bwysigrwydd chwaraeon hygyrch, yn enwedig 'pêl gôl', camp a gafodd effaith enfawr ar Catrin. Mae Gwennan yn esbonio sut y datblygodd ei merch o chwarae'r gamp i gynrychioli tîm menywod Prydain, gyda'r gobaith o gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles 2028.
Yn ogystal, mae Gwennan yn trafod dod o hyd i hapusrwydd personol ar ôl ysgariad, a phwysigrwydd bod yn agored am anabledd yn hytrach na'i guddio.
Mae hon yn bennod gynnes, ddoniol ac ysbrydoledig am wydnwch, teulu, hunan-dderbyniad a'r ffordd y gall pobl anabl ffynnu pan fyddant yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir.
From the publisher's feed
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A…