Yn ymuno a ni y tro hwn yw cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Fel rhywun fydd o bosib yn mynd lawr fel arweinydd mwyaf adnabyddus Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli, mi fydd ei ddylanwad yn parhau ymhell i’r dyfodol.
Hefyd, ei benderfyniad o i ddiwygio’r Senedd sy’n debygol o greu’r amodau ar gyfer yr etholiad mwyaf cyffroes erioed mis Mai nesaf.
Rydym yn trafod hyn a mwy o Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.