Yn ymuno â ni ar Craffu360 y tro yma yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy’n byw yn Washington.
Yn brif wyneb Newyddion S4C yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer fel rhywun sy’n adrodd straeon gwleidyddol a materion cyfoes o’r wlad honno.
Fyddwn yn trafod eithafiaeth, byw yn yr Unol Daleithiau, a’i ffrindiau mawr a perchnogion CPD Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds.