Sign up to save your podcasts
Or

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beca Wyn Owen, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg.
Yn ystod y sgwrs, trafodir sut mae technolegau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio, a’r hyn mae hynny’n ei olygu i fywiogrwydd ieithyddol yn yr oes ddigidol. Mae Beca yn esbonio sut gall anghydbwysedd data, dylanwadau masnachol, a phenderfyniadau polisi arwain at anghydraddoldebau digidol rhwng ieithoedd — ac yn holi beth yw goblygiadau hyn i addysg Gymraeg mewn ysgolion a phrifysgolion.
Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n canolbwyntio ar brofiadau athrawon, myfyrwyr, darlithwyr a llunwyr polisi, ac yn codi cwestiynau pwysig am gyfrifoldeb, cyfleoedd, a dyfodol y Gymraeg mewn byd lle mae AI yn chwarae rhan gynyddol ganolog.
Mae PhD Jonathan a phrosiect Beca yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
By Jonathan DaviesYn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beca Wyn Owen, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg.