Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Podlediad Ysgol Busnes Bangor: Dathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor; ei diwylliant, ei threftadaeth a chyfleoedd ailgysylltu, i’r cymuned ac i fusnes yn y dyfodol


Listen Later

Ym mhennod Gymraeg olaf Ysgol Busnes Bangor o’i chyfres fach o bodlediadau Penny for your Thoughts, bydd y cyflwynydd Darren Morely (Rheolwr Cyswllt Busnes) yn cael cwmni Dr Martin Hanks (Cyfarwyddwr y Ddinas, Cyngor Dinas Bangor), ac academyddion Ysgol Busnes Bangor, Carl Mathers (Uwch Ddarlithydd Marchnata) a Dr Edward Thomas Jones (Uwch Ddarlithydd Economeg) i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor. 

 

Bydd y gwesteion yn sôn am sut mae canol dinas Bangor wedi newid dros y blynyddoedd, effaith siopau’n symud i barciau manwerthu ar gyrion y ddinas o’r hyn a oedd unwaith yn ganol dinas brysur; a’r balchder o fod â'r stryd fawr hiraf yng Nghymru. Bydd Martin, Carl ac Ed yn trafod hyn oll, gan gyflwyno golwg gadarnhaol ar y dyfodol ac ystyried hyn fel cyfle i ail-greu canol y ddinas fel lle creadigol ac arloesol. 

 

Maent yn cynnig bod hwn yn gyfle i holi'r gymuned; Beth ydym eisiau i Fangor fod yn awr? Sut allwn ni ddefnyddio ei hanes, ei diwylliant Cymreig, a’i threftadaeth i siapio Bangor yn ddinas sy’n dod â’i chymuned a’i busnesau at ei gilydd ac yn ailgysylltu â’i gilydd? 

 

Gwrandewch i gael clywed am rai o gydweithrediadau cychwynnol cyffrous Cyngor Dinas Bangor sy'n digwydd fel rhan o’r ymdrechion i adfywio canol dinas Bangor, a rhai o'r digwyddiadau cyffrous a fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r gweithgareddau i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor.

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes BangorBy Ysgol Busnes Bangor