Ar ôl seibiant fach, mae Podlediad Cymraeg Gleision Caerdydd yn ôl gyda blaen-asgellwr Cymru, Gleision Caerdydd a Bristol Bears, Manon Johnes, yn ymuno â Owain Gruffudd i drafod ei gyrfa trawiadol hyd yn hyn, astudio yn Rhydychen a lawnsiad cit newydd Merched Gleision Caerdydd. Ennillodd Manon ei chap cyntaf dros Gymru yn 17 mlwydd oed ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill Chwaraewr y Flwyddyn dros dîm Merched Gleision Caerdydd.