Wedi ei sefydlu yn 2021, mae Rural Advisor yn dîm arbenigol o ymgynghorwyr, syrfewyr siartredig a chynghorwyr, sy’n arbenigo mewn darparu cyngor i fusnesau gwledig. Maent yn gweithio ar y cyd i gynnig yr atebion a'r cyngor gorau i unigolion a’u busnesau. Lleolir y tîm o’u cartrefi ar draws Cymru a Swydd Henffordd yn Lloegr.