
Sign up to save your podcasts
Or


Mae’r tech yn eilradd i’r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo’r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR 🤯
OK, mae na chydig o tech hefyd, gyda sŵn diffeithwch y gofod, keyloggers yn browsers eich hoff social media apps a burnout artistiaid vfx - ond gan fwyaf? RRR fancast ydy hwn mis yma (a byddwn, fyddwn ni'n sôn am y stwff problematic hefyd 😣)
Diolch o galon i’n holl gyfranwyr ar Kofi, ac i bob un ohonoch chi sy’n gwrando ar y llanast yma bob mis - ni’n falch o gael chi yma 🥰
Support Yr Haclediad
Links:
Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod 😬
🍹 Fel Piña colada i'ch clustiau, bydd Bryn, Iestyn a Sions yn sipian drinks oer, trafod Glassholes, backlash Insta newydd a ffilm... Dda!?
Yup, ar ôl dwy flynedd o 'Ffilmiau Di Ddim', mae'r criw yn swapio'r rhai gwael am 'Ffilmiau Pam Ddim?' Ac yn deifio fewn efo'r design classic mildly problematic The Man From U.N.C.L.E. 😅
Diolch o galon eto i bawb sy wedi ein cefnogi ni wrth wrando a chyfrannu i'r gronfa slush ☀️😎
Support Yr Haclediad
Links:
Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae’r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad.
Mae na newyddion sentient chatbots a’r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️😇👼
Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu 😉a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?”
Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury
Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i’r pot Ko-rfi ☺️
Support Yr Haclediad
Links:
Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅
Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥
Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com efo Paolo👌
Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍
Support Yr Haclediad
Links:
Mae’n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i’r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau.
Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a’i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain.
Ffilm di ddim y mis ydy’r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) llyfrau i gael chi trwy’r mis nesa.
Diolch i bawb sy’n gwrando, ac i’r legends sy’n cyfrannu i’n Ko-fi - chi’n wych 🤩
Support Yr Haclediad
Links:
Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu’r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa.
Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect’ a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs’; byddwn ni’n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical’.
So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job 😬
Os hoffech chi gefnogi’r fath ffwlbri, beth am daflu cwpl o bunnoedd i’r cwpan Ko-fi fan hyn? Diolch eto am wrando 😊
Support Yr Haclediad
Links:
Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓
‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆
Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff random CES ymysg llwythi o bethau eraill.
#FfilmDiDdim y mis ydy’r unigryw RED NOTICE 🚨 Ydy’r isdeitlau Cymraeg yn gwneud y ffilm yn anhygoel o brofiad, neu ydy veins pen Y Rock yn transendio ffiniau iaith heb eu help? Sgipiwch y chapter markers yn syth i weld 😊
A DIOLCH MAWR IAWN i Ross Mc Farlane a Jamie am roi arian hael yn tip jar y sioe draw ar Ko-Fi - gwnewch chi’r un peth i gael shout out ar y sioe 🥳
Diolch am wrando a welwn ni chi mis nesa 😚
Support Yr Haclediad
Links:
🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍
🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod.
🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn rhedeg ar OnlyFans a Netflix Christmas Movies o hyn mlaen, cymwch notes!
⭐️ Hoffai tîm yr Haclediad hefyd anfon ein cariad i bawb sydd wedi colli rhai annwyl, neu yn dioddef dros yr ŵyl, dydy Dolig ddim wastad yn adeg hapus - plis ewch i meddwl.org am gyngor ac adnoddau i’ch helpu i ddod trwyddi elenni.
Support Yr Haclediad
Links:
🔥Cwtshwch yn agos i’r firepit rhithiol a neidiwch mewn i metaverse yr Haclediad am bennod newydd sbon gaeafol🔥
Y mis yma bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn sibrwd y newyddion tech, gemau a diwylliant diweddaraf i’ch clustiau - yn ogystal â gwylio ffilm ARALL o 1997: Batman & Robin, bet bo chi methu aros am honna. A fydd B&R yn “Valerian Level”? Gwrandewch i ffindio allan…
🎉 Diolch enfawr i bawb sy’n lawrlwytho, ond yn arbennig i Matthew Madison am y Ko-Fi sydd wedi talu am y ‘hosting’ mis yma. ko-fi.com/haclediad 🎉
Support Yr Haclediad
Links: