
Sign up to save your podcasts
Or


Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 - ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth).
Smij o dan 2 awr o hwyl ynghwmni mêts? JUST BE CHI ANGEN!
A, byddwch yn ddiolchgar na wnaethon ni alw’r bennod yma yn “Specific Rimming” fel oedden ni isie.
Support Yr Haclediad
Links:
Ar bennod ddiweddara'r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru.
Mae'r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a'r Birds of Prey - hyn i gyd a mwy ar eich hoff wast o'ch amser prin ar y blaned hon 😊
Support Yr Haclediad
Links:
Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned - byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn.
Hyn oll a llawer llawer mwy ym mhennod cyntaf 2020, diolch am danysgrifio! newydd dda gan griw’r Haclediad!
Support Yr Haclediad
Links:
Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡
Diolch chi gyd sy'n tanysgrifio a gwrando - ac yn benodol i unrhyw un sy'n cyrraedd diwedd pennod 😂
Support Yr Haclediad
Links:
Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr:
Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef / @Iestynx / @Bryns 🙏
Support Yr Haclediad
Links:
Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman!
Support Yr Haclediad
Links:
Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3.
Mae'r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic!
Diolch am danysgrifio ☺️
Support Yr Haclediad
Links:
Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad.
Wrth gwrs mae'r A-Gin-Da, Game/Gay of Thrones, spoilers Endgame a thollti te yn yr After parti, joiwch!
Special Guest: Geraint Howells.
Support Yr Haclediad
Links:
Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan…
Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌
Support Yr Haclediad
Links:
Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets!
Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!)
Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg.
Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n troi’n bionic.
Special Guest: Carl Morris.
Support Yr Haclediad
Links: