Podlediad Cymraeg gyda Sioned o'r Bartneriaeth Awyr Agored | A Welsh podcast with Sioned from The Outdoor Partnership.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill yn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ein strategaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf yw: ‘Gwella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored’. Sefydlwyd y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2004 gan ddwyn mudiadau sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio’n effeithiol yn y sector awyr agored a rhannu’r un weledigaeth. Ein bwriad yw i wella:
•iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl,
•yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth),
•y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored,
•cymryd rhan ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy.
Mae ein prosiectau helaeth yn rhoi cyfleoedd i drigolion lleol ym mhob un o’n ardaloedd, o bob cefndir, gymryd rhan yn yr awyr agored drwy raglenni ysgol, clybiau cymunedol, gwirfoddoli a rhaglenni gwaith.
The Outdoor Partnership work to support the people of Wales and other UK areas to take up outdoor activities as a life-long pursuit. Our vision for the next 10 years is: ‘Enhancing people’s lives through outdoor activity’. The Outdoor Partnership was established in 2004 bringing public, private and third sector organisations together to work effectively in the outdoor sector with a common vision. Our aim is to enhance:
•people’s physical and mental health and wellbeing,
•the economic return (including employment),
•the social value through outdoor activity,
•grassroots participation in activities such as walking, cycling, climbing, canoeing, paddleboarding, sailing, mountain biking, and many more.
Our numerous projects provide opportunities for local residents in all our areas, from all walks of life to become involved with the outdoors through school’s programmes, community clubs, volunteering and employability programmes.