Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur

Aidan Mumford, Samuel Carpenter a Joseph Danter


Listen Later

Ymunwch â ni am sgwrs yng nghwmni lleisiau sydd yn gyfarwydd i wrandawyr y podlediad, ond â hwythau newydd orffen eu harholiadau ym Ml.13 dyma droi’r meicroffon.  

Mr Iolo Roberts sydd yn mwynhau sgwrsio gyda’r tri disgybl am eu taith a’u profiadau ac yn eu holi am eu rhieni  - am y ffydd a’r fenter i gyflwyno’u plant i addysg Gymraeg.   

Bu Aidan i Ysgol Gynradd Dolau, Samuel i Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail a Joseph i Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant felly dyma leisiau’n bro a’n clwstwr a’r tri bellach yn aelodau balch o Deulu Llanhari. 

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Llwybrau Llanhari - Dathlu'r AurBy Tsgol Llanhari