Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur

Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur

By Tsgol LlanhariSociety & Culture
Download on the App Store

Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur episodes

  • Rhian Griffiths
    Bu Ms Rhian Wyn Griffiths yn aelod o’r Adran Gymraeg rhwng 1990 ac 2000 yn Bennaeth Adran am 8 o’r rheiny.  Bu hefyd yn Bennaeth Chweched am flwyddyn cyn ymuno â thîm o athrawon a fu’n sefydlu ysgol Gymraeg newydd ym Mro Morgannwg.

    Mi fydd ei llais yn gyfarwydd iawn i filoedd o gyn-ddisgyblion felly dyma gyfle i ni ddod i'w hadnabod yn well a hel atgofion am Lanhari a mwy. 

    Alffi ac Ellis sy’n arwain y sgwrs y tro hwn. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    57 min
  • Llion Jones
    Un a’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Y Parc ger y Bala yw gwestai’r bennod hon, ond bu Mr Llion Jones yn aelod o’r Adran Gymraeg yn Llanhari ers 1997 a bydd nifer yn ei gofio fel Pennaeth Blwyddyn am gyfnod o 10 mlynedd.   

    Mae’n siwr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn ac eleni fe gafodd y tri sy’n ei holi, Eve, Owain ac Huw, brofi ei angerdd am y Gymraeg tra’n astudio ar gyfer eu Lefel A yn y pwnc. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    55 min
  • Aidan Mumford, Samuel Carpenter and Joseph Danter
    To borrow a phrase, the dragon has two tongues. In this special edition of the school’s podcast to celebrate Ysgol Llanhari turning 50 we ask three of our current pupils as they complete their journey at the school following their A-level exams about the value of their Welsh medium education.

    We also hear of their parents' early fears, their support and their joy as they witnessed them develop and enjoy the variety of sport, culture and opportunities that a Welsh medium education encourages.
      
    Aidan was a former pupil at Dolau Primary School in Llanharan, Samuel a past pupil at Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail and Joseph at Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. 

    Ysgol Llanhari is proudly celebrating providing 50 years of Welsh medium education to the pupils of Rhondda Cynon Taf and beyond.  

    Enjoy this special chapter as we hear in their discussion with their form tutor, Mr Iolo Roberts, how they have reaped the benefits of a Welsh medium education. 
    33 min
  • Aidan Mumford, Samuel Carpenter a Joseph Danter
    Ymunwch â ni am sgwrs yng nghwmni lleisiau sydd yn gyfarwydd i wrandawyr y podlediad, ond â hwythau newydd orffen eu harholiadau ym Ml.13 dyma droi’r meicroffon.  

    Mr Iolo Roberts sydd yn mwynhau sgwrsio gyda’r tri disgybl am eu taith a’u profiadau ac yn eu holi am eu rhieni  - am y ffydd a’r fenter i gyflwyno’u plant i addysg Gymraeg.   

    Bu Aidan i Ysgol Gynradd Dolau, Samuel i Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail a Joseph i Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant felly dyma leisiau’n bro a’n clwstwr a’r tri bellach yn aelodau balch o Deulu Llanhari. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    48 min
  • Kathryn Thomas a Rhys Williams
    Brawd a chwaer o ardal Corneli yn Sir Pen y bont ar Ogwr sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y bennod hon o Lwybrau Llanhari, sef Kathryn Thomas a Rhys Williams.  

    Mae chwaraeon yn eu gwaed. Ynghyd â’u brawd James, maen nhw wedi serennu ym myd y campau ers eu cyfnod yn Llanhari.  Mae ganddyn nhw lu o wobrau cenedlaethol rhyngddynt ac fe lwyddodd un ohonynt i gipio medalau ar lefel Ewropeaidd a’n cynrychioli yn y Gemau Olympaidd.  Heddiw cawn glywed mwy am yr ymroddiad personol sydd ei angen i gyrraedd y lefel uchaf a dysgu mwy am eu cyfnod yn Llanhari a’u diddordebau eraill. 

    Ellis, sydd yn mwynhau jiwdo a phêl-fasged, a Kacey, sy’n athletwraig frwd o Fl.12 sydd yn cael y cyfle i holi’r ddau a chael eu hysbrydoli gan straeon a llwyddiannau Rhys a Kathryn. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    50 min
  • Colin Pari (Ail bennod)
    Mr Pari Llanhari!

    Ail bennod yng nghwmni Mr Pari wrth i ni glywed am ei daith o Lundain i Lanhari a cheisio crynhoi deng mlynedd ar hugain o atgofion mewn pennod!  Cawn hefyd glywed am ei yrfa newydd a’i ddiddordebau a mwynhau mwy o lwybrau storïol unigryw Mr Pari. 

    Dafydd, yng nghwmni Eve y tro hwn, sy’n mwynhau’r sgwrs a’r hel atgofion. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.

    Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol
    57 min
  • Colin Pari
    Mr Pari. 

    Does dim angen mwy o gyflwyniad ar y dyn arbennig hwn. 

    Bu’n athro yma am ddeng mlynedd ar hugain.   

    Mae’n Gymro i'r carn, yn ddyn haearn a bellach mae wedi arall-gyfeirio'n dechnegydd ambiwlans. 

    Doedd dim posib gwasgu holl straeon Mr Pari i un bennod ar gyfer y podlediad, felly ymlaciwch a mwynhewch bennod 1 wrth i Mr Pari ein tywys ni o’i atgofion cynharaf, drwy’i goeden deulu, hyd at ddyddiau Aberystwyth...dyma sgwrs sy’n ein tywys i sawl cyfeiriad, wrth gwrs! 

    Dafydd a Betsan, dau o brif swyddogion eleni, sy’n ceisio cadw Mr Pari ar ryw fath o lwybr yn ystod y sgwrs hon. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    41 min
  • Rhys Thomas
    Un o ardal Pontyclun yw’n gwestai ni heddiw ac er gadael yr ardal am gyfnod i fynd i'r Brifysgol a chrwydro’r byd gyda’i waith, dyn ei filltir sgwar ydyw. Dychwelodd i'r ardal i fagu’i deulu ac i sefydlu busnes.

    Mae’n gerddor ac yn grefftwr a chawn glywed sut y bu iddo droi diddordeb a dawn yn yrfa.  Cofia’n arbennig am ddylanwad rhai athrawon a’r gwersi sy’n canu hyd heddiw yn ei feddwl wrth wneud penderfyniadau. 
     
    Yn y bennod hon, yng nghwmni Aidan a Joseph o Fl.13, cawn gip ar daith hynod ddiddorol Rhys Thomas, un hanner o’r bartneriaeth  sy’n creu drymiau ‘Tarian’.

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    1 hr 31 min
  • Rhodri Bwye
    Un o ardal Maesteg yw’n gwestai yn y bennod hon a bu’n ddisgybl yn Llanhari dros droad y Mileniwm. Manteisiodd ar gyfleoedd allgyrsiol drwy bob Adran – ar lwyfan, ar faes chwarae a thrwy deithiau niferus. 

    Mae’n gymeriad a hanner a chawn glywed sawl stori dda ganddo am ei gyfnod yn yr ysgol, atgofion cynnes am athrawon dylanwadol a chawn glywed sut y bu i Lanhari ennill lle arbennig yn ei galon hyd heddiw. 

    Alffi a Bleddyn o Fl.12 sy’n mwynhau’r sgwrs a’r straeon yng nghwmni gwych Rhodri. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    47 min
  • Ifan Jenkin
    Croeso i bennod ryngwladol gyntaf Llwybrau Llanhari!  Cawn deithio i Unol Daleithiau’r Amerig, i Stanford, er mwyn cynnal y sgwrs hon.  Serch hynny,  mae yna sawl tro difyr ac amrywiol ar lwybr a phin ar fap ein gwestai amryddawn heddiw. 

    Yn feddyg, yn ymchwilydd ac yn gerddor o fri, estynnwn groeso cynnes iawn i Ifan Jenkin. 

    Roedd Ifan yn un o’r disgyblion olaf i deithio i Lanhari o ardal Pen-y-bont cyn i ddrysau Ysgol Llangynwyd agor er mwyn darparu addysg Gymraeg uwchradd i ddisgyblion y sir honno. Ond  ymfalchïwn mai aelod o Deulu Llanhari yw Ifan. 

    Ifan a Caitlin o Fl.12 sydd yn llywio’r sgwrs hon. 

    Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

    Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
    56 min

About Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur

From the publisher's feed

Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur. 

Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi…