Am Blant

Am Blant

By Y Pod Cyf.Education
Download on the App Store

Am Blant episodes

  • Beth ydy chwarae?
    Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?

    Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.

    Mwynhewch y gwrando!
    51 min
  • Llais Rhieni
    A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?

    I gael gwybod mwy gwrandewch ar bodlediad rhif 5 yn y gyfres AM BLANT yng nghwmni Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Sion Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
    51 min
  • Hawliau Plant
    Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.

    Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?

    Gwrandewch ar y podlediad i gael gwybod mwy.
    1 hr 5 min
  • Beth sydd ei angen ar blentyn...?
    Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?

    Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu.

    Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
    48 min
  • Beth yw ieuenctid?
    Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?

    Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?

    Faint o ryddid sydd ar gael iddynt a sut fath o ddyfodol sydd o'u blaenau?
    55 min
  • Beth yw Plentyndod?
    Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
    50 min
  • Croeso i bodlediad Am Blant
    Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.

    Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.

    Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
    1 min

About Am Blant

From the publisher's feed

Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.

Bydd darlithwyr o…