Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y ma... more
FAQs about Bangor Be Wedyn?:How many episodes does Bangor Be Wedyn? have?The podcast currently has 7 episodes available.
July 30, 2025Teleri Davies"Oedd astudio drwy'r Gymraeg yn benderfyniad naturiol i fi wneud." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Dyma bennod ychwanegol arbennig gyda'r chwaraewr rygbi Teleri Davies! Mae stori Teleri yn un ofnadwy o ddiddorol. Mi astudiodd hi'r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor cyn cymhwyso fel cyfreithwraig. Mae hi hefyd wedi chwarae rygbi dros ei gwlad a mae hi bellach yn gweithio fel athrawes ac yn chwarae rygbi yn Tseina. Oherwydd y logistics, yn anffodus doedd hi ddim yn bosib recordio gyda Teleri yn fyw , ond mae hi yn garedig iawn wedi rhannu ei stori gyda ni. Mae hi'n sôn ychydig am ei hamser yn y brifysgol, pam dewis astudio'r gyfraith ym Mangor a pham dewis astudio drwy'r Gymraeg. Mae hi hefyd yn sôn am ba mor ddefnyddiol ydy bod yn ddwyieithog yn y byd cyfreithiol, cyn symud ymlaen i siarad am ei phrofiad o fyw yn Tseina a sut gafodd hi'r cyfle i fynd i chwarae rygbi ochr arall y byd. Mwynha'r bennod ychwanegol yma!...more18minPlay
July 16, 2025Sioned Dafydd"Fi mor mor ddiolchgar bo' fi'n siarad Cymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Yn y bennod yma mi wnes i sgwrsio hefo Sioned Dafydd, cyflwynydd a gohebydd i Sgorio ar S4C. Mae Sioned wedi cael profiadau anhygoel drwy weithio yn y byd darlledu gan gynnwys gohebu ar gemau dynion Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2022. Mae Sioned yn sôn am pa mor ddiolchgar ydy hi ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg a sut mae medru'r iaith wedi ei helpu yn ei gyrfa. Mae hi hefyd yn sôn sut wnaeth hi a tîm cynhyrchu Sgorio gyd-weithio hefo Cymdeithas pêl-droed Cymru i adeiladu hyder Aaron Ramsey i wneud cyfweliadau yn Gymraeg. Os wyt ti eisiau gyrfa yn y byd darlledu chwaraeon, dyma'r podlediad i chdi. Mwynha'r bennod! ...more32minPlay
July 02, 2025Huw Harvey a Malan Fôn"Fedra i ddweud reit sicr, fyswn i ddim lle ydw i wan heb y Gymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Cerddoriaeth ydi'r maes sy'n cael sylw yn y bennod yma. Mi wnes i siarad hefo Huw Harvey, aelod o fand Fleur de Lys sydd hefyd yn bennaeth cerdd yn Ysgol Brynrefail a Malan Fôn, cantores a chyfansoddwraig sydd hefyd yn gweithio fel arweinydd tîm creadigol yn Gisda ac Ucheldre. Mae'r ddau yn siarad am pa mor bwysig ydy cerddoriaeth iddyn nhw a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu yn eu gyrfaoedd. Mae nhw hefyd yn cynnig ambell dip i unrhyw un sydd yn hoff o ysgrifennu caneuon ei hunain. Mwynha'r bennod! ...more40minPlay
June 18, 2025Daniel Roberts a Non WilliamsGwyddoniaeth ac ymchwil sy'n cael sylw yn y bennod yma, yn benodol peirianneg electronig a'r gwyddorau amgylcheddol.Yn y bennod yma, mi nes i siarad efo Dr Daniel Roberts, uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor a Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon i Gyswllt Ffermio.Roedd hi'n ddiddorol clywed sut mae'r ddau yn defnyddio'r Gymraeg mewn meysydd lle dydy'r Gymraeg efallai ddim mor amlwg.Be mae'r sgwrs yma'n profi ydi bod Gwyddoniaeth a'r Gymraeg yn gweithio law yn llaw â'i gilydd a hynny mewn ffyrdd cwbl naturiol....more38minPlay
June 04, 2025Tomos Owen a Sioned Young"Does 'na ddim con o astudio drwy'r Gymraeg."Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn. Mi ydw i, Huw Gwynn yn siarad hefo dau entrepeneur sydd wedi sefydlu busnesau llwyddiannus eu hunain.Yn gyntaf, Sioned Young sylfaenydd Mwydro, busnes darlunio digidol a marchnata ac yn ail Tomos Owen, perchennog Swig smwddis.Wnes i fwynhau clywed amdan sut wnaeth y ddau ddechrau eu busnesau a sut brofiad oedd sefydlu busnes yn Arfon.Mae nhw'n siarad am bwysigrwydd y Gymraeg iddyn nhw ar lefel personol ond hefyd pwysigrwydd yr iaith i'w busnesau.Fyswn i'n dweud mai hwn ydy'r unig bodlediad lle mae un o'r gwesteion yn gwerthu smwddis ac yn recordio podlediad yr un pryd – multi-taskio ar ei orau.Mwynha'r bennod! ...more34minPlay
May 21, 2025Liam Evans a Rhiannon Williams"dwi'm yn 'nabod neb sy' 'di difaru astudio pwnc drwy'r Gymraeg"Croeso i bodlediad cyntaf Bangor Be Wedyn – lle dwi Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi helpu nhw ar hyd y ffordd. Mi yda ni'n dechrau hefo 'bang' – ges i'r pleser o sgwrsio hefo Liam Evans, uwch-ohebydd BBC a Rhiannon Williams, swyddog hyrwyddo a marchnata S4C, y ddau yn ifanc yn eu gyrfaoedd ond wedi cyflawni llawer yn barod.Maen nhw'n siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn eu swyddi, sut mae'r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw a pa mor bwysig ydy hi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd wyt ti'n eu cael....more43minPlay
May 14, 2025Podlediad Bangor Be Wedyn?Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli! Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu....more2minPlay
FAQs about Bangor Be Wedyn?:How many episodes does Bangor Be Wedyn? have?The podcast currently has 7 episodes available.