"Fi mor mor ddiolchgar bo' fi'n siarad Cymraeg."
Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.
Yn y bennod yma mi wnes i sgwrsio hefo Sioned Dafydd, cyflwynydd a gohebydd i Sgorio ar S4C. Mae Sioned wedi cael profiadau anhygoel drwy weithio yn y byd darlledu gan gynnwys gohebu ar gemau dynion Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2022.
Mae Sioned yn sôn am pa mor ddiolchgar ydy hi ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg a sut mae medru'r iaith wedi ei helpu yn ei gyrfa. Mae hi hefyd yn sôn sut wnaeth hi a tîm cynhyrchu Sgorio gyd-weithio hefo Cymdeithas pêl-droed Cymru i adeiladu hyder Aaron Ramsey i wneud cyfweliadau yn Gymraeg.
Os wyt ti eisiau gyrfa yn y byd darlledu chwaraeon, dyma'r podlediad i chdi. Mwynha'r bennod!