Yn yr ail bennod o’r gyfres hon, byddwn yn trafod sut mae ffermwyr a’r gymuned ffermio ehangach yn ymateb i newid hinsawdd – yr heriau a’r cyfleon sy’n deillio o’r daith i net sero.
Yn ymuno â'r cyflwynydd, Aled Rhys Jones mae Glyn Roberts a Beca Glyn – tad a merch sy’n ffermio yn Nylasau Uchaf, fferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd rhwng Ysbyty Ifan a Betws y Coed. Mae Glyn a Beca yn edrych ar ol y fferm ddefaid a chig eidion ac yn gweld eu hunain fel gwarchiediaid y tir. Yn ogystal â bod yn ffermwr prysur, mae Glyn hefyd yn Lywydd ar Undeb Amaethwyr Cymru – rôl y mae wedi ymgymryd â hi ers 2015.