Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Bwyd. Hinsawdd. Newid? Cyfres o bodlediadau sy’n rhoi’r cyfle i ni gnoi cil....Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow ar hyn o bryd, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi dod ag amryw o bobl at ei gilydd... more
FAQs about Synnwyr Bwyd Cymru:How many episodes does Synnwyr Bwyd Cymru have?The podcast currently has 3 episodes available.
July 02, 2025Lleisiau Llysiau CymruYmunwch â phlant Ysgol y Dderi, Ceredigion wrth iddyn nhw’n tywys ni ar daith prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Wedi ymuno â'r fenter yn 2024, mae'r plant yn esbonio sut y gwnaethon nhw ddod i gymryd rhan ac yn siarad ag aelodau allweddol y prosiect am eu gwaith fel rhan o’r cynllun. Gwrandewch yn astud ac efallai y clywch chi ambell i jôc lysieuol hefyd!...more19minPlay
November 05, 2021Bwyd. Hinsawdd. Newid? – Y daith i net seroYn yr ail bennod o’r gyfres hon, byddwn yn trafod sut mae ffermwyr a’r gymuned ffermio ehangach yn ymateb i newid hinsawdd – yr heriau a’r cyfleon sy’n deillio o’r daith i net sero. Yn ymuno â'r cyflwynydd, Aled Rhys Jones mae Glyn Roberts a Beca Glyn – tad a merch sy’n ffermio yn Nylasau Uchaf, fferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd rhwng Ysbyty Ifan a Betws y Coed. Mae Glyn a Beca yn edrych ar ol y fferm ddefaid a chig eidion ac yn gweld eu hunain fel gwarchiediaid y tir. Yn ogystal â bod yn ffermwr prysur, mae Glyn hefyd yn Lywydd ar Undeb Amaethwyr Cymru – rôl y mae wedi ymgymryd â hi ers 2015....more40minPlay
October 29, 2021Bwyd. Hinsawdd. Newid? – Defnydd o dir a chymunedau gwledigYm mhennod cyntaf ein cyfres newydd o bodlediadau sy’n edrych ar system fwyd Cymu a’i effaith ar newid hinsawdd, byddwn yn trafod ein defnydd ni o ni o dir yng Nghymru - o ffermio er lles natur i’r iaith Gymraeg; ac o gymunedau cefn gwlad, i dyfu bwyd ein hunain. Yn ymuno â’r cyflwynydd Aled Rhys Jones, bydd Rhys Evans o’r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur a Caryl Haf, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru....more34minPlay
FAQs about Synnwyr Bwyd Cymru:How many episodes does Synnwyr Bwyd Cymru have?The podcast currently has 3 episodes available.