Podlediad Cadernid Digidol - GwE - Digital Resilience Podcast

Cadernid Ddigidol - Meithrin perthynas amhriodol ar-lein


Listen Later

Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn disgrifio proses pan fo rhywun yn dod yn gyfaill i blentyn ar-lein ac yn ennyn ei ymddiriedaeth gyda’r bwriad o’i ddefnyddio, ei ecsbloetio neu achosi niwed iddo.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Bydd y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn datblygu cysylltiad emosiynol â phlentyn i ennyn ei ymddiriedaeth a gall troseddwyr ecsbloetio problemau fel unigrwydd, ynysigrwydd, hunan-barch isel, anawsterau teuluol neu mewn perthynas neu pan fo rhywun yn archwilio rhywioldeb.

Gall y sawl sy’n gwneud hyn fod yn gyfarwydd i’r plentyn neu fe all fod yn gwbl ddieithr. Mae’r rhai sy’n gwneud hyn yn defnyddio amrywiaeth o dactegau i ennill grym a rheolaeth dros eu dioddefwr. Gall y rhain gynnwys esgus bod yn ffrind anfygythiol, fflyrtio, llwgrwobrwyo gyda rhoddion go iawn neu rithwir, canmol, blacmelio ac ynysu’r plentyn oddi wrth ffrindiau a theulu. Gall addysgu plant o oedran cynnar beth yw perthnasoedd iach a llawn parch eu helpu i ddeall pwy i ymddiried ynddo ar-lein a’u grymuso i osgoi neu ymdrin â chyswllt amhriodol yn ddiogel.

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Podlediad Cadernid Digidol - GwE - Digital Resilience PodcastBy GwE Gogledd