Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
FAQs about Comisiynydd y Gymraeg:How many episodes does Comisiynydd y Gymraeg have?The podcast currently has 8 episodes available.
January 05, 2026Maniffesto Comisiynydd y Gymraeg – gwasanaeth iechyd a gofal clinigolWrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi cyfres o bodlediadau yn trafod ei maniffesto. Hwn yw’r trydydd yn y gyfres sydd yn trafod y maniffesto gan edrych ar flaenoriaeth benodol – gwasanaeth iechyd a gofal clinigol. Hanna Hopwood sydd yn trafod gyda Lowri Williams o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Caerwrangon sydd yn arbenigo ym maes dementia....more13minPlay
December 07, 2025Maniffesto Comisiynydd y Gymraeg – Cynllunio Ieithyddol CymunedolWrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi cyfres o bodlediadau yn trafod ei maniffesto. Hwn yw’r ail yn y gyfres sydd yn trafod y maniffesto gan edrych ar flaenoriaeth benodol. Hanna Hopwood sydd yn holi Lowri Williams o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Myfanwy Jones o Fentrau Iaith Cymru a Catrin James o Urdd Gobaith Cymru....more22minPlay
October 06, 2025Podlediad maniffesto Comisiynydd y GymraegWrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn trafod ei maniffesto a’r blaenoriaethau penodol sydd ynddo. Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o bodlediadau fydd yn trafod y maniffesto felly cadwch olwg amdanynt dros y misoedd nesaf....more14minPlay
November 25, 2024Eden a’r GymraegYn y podlediad arbennig hwn i gyd-fynd ag ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, mae Hanna Hopwood yn cael cwmni Non, Rachel ac Emma o’r grŵp Eden ac yn sgwrsio am eu profiadau nhw gyda’r iaith Gymraeg yn eu bywydau personol, ac yn eu gyrfaoedd....more27minPlay
May 15, 2024Rho gynnig arni!Yn ein podlediad diweddaraf mae Mathew Thomas, Pennaeth Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood am waith y tîm ac yn benodol am y Cynnig Cymraeg. Yn ymuno â nhw mae Harri Jones o gymdeithas adeiladu’r Principality....more12minPlay
March 15, 2024Trywydd rheoleiddio i'r dyfodolYn ein hail podlediad mae Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood ac yn amlinellu ein dull rheoleiddio i'r dyfodol....more12minPlay
December 04, 2023Blwyddyn gyntaf Comisiynydd y GymraegWrth i Efa Gruffudd Jones ddod at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, mae hi'n sgwrsio gyda Hanna Hopwood, yn edrych yn ôl ar ei chyfnod cyntaf yn y swydd ac nodi rhai uchafbwyntiau, a’i gobeithion i'r dyfodol....more14minPlay
October 19, 2021Pwyso a Mesur: Sefyllfa’r Gymraeg 2016–20Mae podlediad cyntaf Comisiynydd y Gymraeg yn rhannu ei farn am sefyllfa'r Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd Aled Roberts yn trafod ei weledigaeth am y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050...more29minPlay
FAQs about Comisiynydd y Gymraeg:How many episodes does Comisiynydd y Gymraeg have?The podcast currently has 8 episodes available.