Mae Alys, merch yn ei harddegau, yn gwybod pwy yw hi a beth mae hi eisiau. Wedi'i gyrru gan atgofion am ei thad, cyn-chwaraewr tennis proffesiynol llwyddiannus, y mae ei farwolaeth anesboniadwy yn ei phoeni, mae Alys yn serfio ar gyfer y gêm derfynol ym Mhencampwriaeth Iau y Merched yn Wimbledon. Yna mae’n llewygu.
A hithau mewn coma yn yr ysbyty, mae Alys yn cael ymweliad gan ei diweddar dad. Gyda chymorth Daf, rhaid iddi benderfynu pwy yw hi, beth mae hi eisiau, ac a ddylai ddychwelyd at ei chorff - a bywyd heb dennis.
Yn cynnwys Ella Peel, Daniel Lloyd, Mari Beard, Gareth John Bale a Mali Ann Rees; ysgrifennwyd gan Lisa Parry; cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Branwen Davies; cyfarwyddwyd gan Zoë Waterman; golygu sain a dylunio gan Rhys Young. Recordiwyd Deuce yn Hoot Studios, Caerdydd.
Mae Deuce yn gynhyrchiad gan Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru ac ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru.
Os yw’r materion a godwyd yn Deuce wedi effeithio arnoch, mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Cardiomyopathy UK a Genetic Alliance UK
Bethan / Gwestai: Mari Beard
Sylwebydd Un: Gareth John Bale
Sylwebydd Dau: Mali Ann Rees
Cyfieithydd: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Dylunio a golygu sain: Rhys Young