Mae Nia Parry yn ymuno efo fi ym mhennod 8 o Dim Clem, lle 'da ni'n trio ein gorau i ateb eich dilemmas, rhannu straeon (embarrassing as per) a lot fawr o fwydro...
Be sydd gan Dating sites a Cats Protection Dre yn gyffredin?
Ydy ghostio byth yn dderbyniol?
Gwerthu rhêchs mewn jariau
Facebook live damweiniol ar y toilet
Y gwir ystyr tu 'nôl i emojis
Dynion topless yn dod allan o'r môr ar ben ceffylau
'Ew, ti 'di twchu!' - sut i ymateb?!
Ydy snŵpio trwy ffôn dy bartner amheus di'n iawn?
Dim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 8 o Dim Clem...