Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

By Gwasanaeth Mabwysiadu CenedlaetholSociety & CultureRelationshipsParentingKids & Family
Download on the App Store

Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu episodes

  • Y Bobl Ifanc Piau Hi
    Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Maen nhw'n trafod rhai o'r heriau maen nhw wedi eu hwynebu, yn ogystal â siarad am eu rhan yn herio y camsyniadau sydd gan eraill am fabwysiadu a sut maen nhw'n dylanwadu ar bolisi.
    24 min
  • Mae Pawb yn Gallu Mabwysiadu
    Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig?

    Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camsyniadau camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu a thrafod pam fod cael pwll eang o fabwysiadwyr amrywiol i ddewis ohono yn hanfodol bwysig i’r plant sy’n aros am riaint.

    Ry ni’n clywed am y gofidion oedd gan Gwawr a Rhys – y ddau mewn cyplau un rhyw - cyn iddyn nhw wneud eu ceisiadu nhw i fabwysiadu. I gloi, mae Rachel, Gwawr a Rhys yn siarad am y fraint o gael magu eu plant.
    29 min
  • Help Llaw Yn Yr Ysgol
    Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg?

    Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu.

    Ry’n ni’n clywed gan Rhys am y modd mae e wedi cyd-weithio gyda’r ysgol i wella profiad ei fab, mae Gwawr yn siarad am y pwysigrwydd o gyfathrebu ac estyn allan am gymorth lle bod angen ac mae Rachel yn sôn am ddewis yr ysgol iawn ar gyfer eich plentyn chi.
    25 min
  • Cariad a Thrawma
    Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd?

    Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd wedi mabwysiadu, y modd mae hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses fabwysiadu a’r modd mae ein rhieni yn delio gydag e o dydd i ddydd wrth rianta.

    Fe wnawn ni glywed gan Rhys, Gwawr a Rachael am ddull rhianta mewn modd therapiwtig. Mae Rhys yn siarad am egwyddorion PACE – Playfulness, Acceptance, Curiosity and Empathy – tra bod Rachel a Gwawr yn ein hatgoffa ni bod pethau ddim wastad yn berffaith, ond bod cariad - a dweud sori - yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
    32 min
  • Cadw a Chreu Cysylltiadau
    Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib?

    Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o gyfathrebu gyda theuluoedd geni eu plant, ynghyd â theuluoedd maeth, ac am y ffordd maen nhw’n trin a thrafod disgwyliadau eu plant.

    Mae Rhys yn sôn am gwrdd â mam biolegol ei fab a Rachel yn siarad am y ffaith bod rhiant un plentyn yn ymateb i’w llythyrau blynyddol, tra bod rhiant ei merch arall ddim yn gwneud a’r dolur mae hynny yn gallu achosi - ond pwysigrwydd y broses er gwaetha’ hyn. Mae Gwawr yn trafod cydnabod hanes a stori ei merched.
    33 min
  • Ein Taith Fabwysiadu
    Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn?

    Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o fabwysiadu plant a’u cyflwyno i’w cartrefi parhaol.

    Maen nhw’n siarad am ddwyster y broses, dysgu amdanyn nhw’u hunain, addasu disgwyliadau, siom a gorfoledd y broses baru, trawma, a mwy.
    29 min
  • Cefnogaeth ôl fabwysiadu
    Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig.
    25 min
  • Creu cysylltiad â fy mhlentyn
    Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n neud yn gwneud gwahaniaeth.
    30 min
  • Y broses baru
    3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?
    27 min

About Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

From the publisher's feed

Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.

Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y…