Sut i Ddarllen

Geraint Iwan


Listen Later

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.

Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.

Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.

Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog


Rhestr Ddarllen

  • Congrinero - David Meredith
  • Rownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue Scullard
  • Beibl y Plant Mewn Lliw
  • I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig Wyn
  • Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan
  • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
  • Yn y Gwaed - Geraint V. Jones
  • Tân ar y Comin - T. Llew Jones
  • Jaws - Peter Benchley
  • Jurassic Park - Michael Crichton
  • Do Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. Dick
  • The Gone-Away World - Nick Harkaway
  • Ready Player One - Ernest Cline
  • I am Legend - Richard Matheson
  • Trioleg Extracted – RR Haywood
  • I, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan Partidge
  • The Rivers of London - Ben Aaronovitch
  • Cyfres The Bourne Identity – Roberts Ludlum
  • Straeon byrion Ruth Rendell
  • And Then There Were None - Agatha Christie
  • Cyfres A Game of Thrones - George R. R. Martin
  • The Martian – Andy Weir

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Sut i DdarllenBy Cyngor Llyfrau Cymru