Sut i Ddarllen

Sut i Ddarllen

By Cyngor Llyfrau CymruArtsBooks
Download on the App Store

Sut i Ddarllen episodes

  • Casi Wyn

    Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn.

    Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth.

    Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynnol i bawb gan ferched Cymru.

    Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell!

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.

    Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

    • Llyfr Mawr y Plant - Jennie Thomas, J.O. Williams
    • Rala Rwdins - Angharad Tomos
    • Heddwch o’r Diwedd - Jill Murphy, addas. Roger Boore
    • Beth Nesaf? - Jill Murphy, addas. Roger Boore
    • Y Llygod a’r Lleuad - Joyce Dunbar, addas. Myrddin ap Dafydd
    • The Lion, the Witch and the Wardrobe - C.S. Lewis
    • A Series of Unfortunate Events - Lemony Snicket
    • Harri Potter a Maen yr Athronydd - J. K. Rowling, addas. Emily Huws
    • Caer y Rhew - Robert Swindells, addas Gruff Roberts
    • Mrs Mochyn a'r Sos Coch - Mary Rayner
    • Elfed yr Eliffant - David McKee
    • 'Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth - Michael Rosen, addas. Gwynne Williams
    • Teulu Bach Nant Oer - Moelona
    • Y Tylwyth Teg
    • mae - Mererid Hopwood
    • Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen
    • O Ffrwyth y Gangen Hon - Gol. Nia Morais
    • Trochi – Carwyn Eckley
    • I Know Why The Caged Bird Sings - Maya Angelou
    • The Doors of Perception - Aldous Huxley
    • Codi Pais
    • Folding Rock
    • Hanes Byw
    • Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân James
    • Y Tywysog Bach - Antoine De Saint-Exupéry
    • Cariad Yw - Casi Wyn
    • Cerdded Lerpwl y Cymry - Gari Wyn
    • Bitter Honey - Caryl Lewis
    • Service 95
    • Send Books
    • Songs of Innocence and of Experience  - William Blake
    • Mynd - Marged Tudur
    • Nature and Selected Essays - Ralph Waldo Emerson

    Y llyfrau ar gael o'ch siop lyfrau leol.

    31 min
  • Malachy Edwards

    Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.

    Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn.

    Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.

    Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

    Rhestr Ddarllen

    • Thrasher Magazine
    • Kerrang
    • Rolling Stone
    • Cyfres Artemis Fowl - Eoin Colfer
    • 1984 - George Orwell
    • The Handmaid's Tale - Margaret Atwood
    • Doctor Faustus - Christopher Marlowe
    • The Autobiography of Benvenuto Cellini - Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne Macdonell
    • The Interesting Narrative and Other Writings - Olaudah Equiano
    • Pam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Simon Brooks
    • Decolonizing Language and Other Revolutionary Ideas - Ngugi wa Thiong'o
    • The Islander - Tomás O'Crohan
    • Y Fro Dywyll - Jerry Hunter
    • Sgythia - Gwynn ap Gwilym
    • Ymbelydredd - Guto Dafydd
    • Lloerganiadau - Fflur Dafydd
    • Anfarwol - Peredur Glyn
    • Te yn y Grug - Kate Roberts
    • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
    • Gweithiau Daniel Owen

    Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    33 min
  • Buddug Watcyn Roberts

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts.

    Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp.

    Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

    Rhestr Ddarllen

    • Morgan a Magi Ann - Mary Vaughan Jones
    • Huw Bob Lliw - Marian Jones
    • Neli’r Pysgodyn Jeli - Marian Jones
    • Marc y Siarc - Marian Jones
    • Ffawd, Cywilydd a Celwyddau - Llwyd Owen
    • mor hapus - Gwenllian Ellis
    • Lladd Arth - Kayley Roberts
    • Cwlwm - Ffion Enlli
    • Holl Lawenydd Gwyllt - Llyr Gwyn Lewis
    • Gwlad Bardd - Rhys Iorwerth
    • Iaith y Nefoedd - Llwyd Owen
    • Oedolyn-ish - Mel Owen
    • Girl Crush - Florence Given
    • Women Don’t Owe You Pretty - Florence Given
    • Women Living Deliciously - Florence Given
    • Trochi - Carwyn Eckley
    • Abermandraw – Rhys Iorwerth
    • Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
    • Hel Llus yn y Glaw – Gruffudd Owen
    • Why Has Nobody Told Me This Before? – Dr Julie Smith
    • V+Fo – Gwenno Gwilym
    • Bechygyn Drwg am Byth – Llwyd Owen

    Mwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    32 min
  • Melanie Owen

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen.

    Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru.

    Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.

    Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wilson girly", rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy's Place, Caerdydd.

    Rhestr Ddarllen

    • Llyfrau Jacqueline Wilson
    • I Feel Bad About My Neck - Nora Ephron
    • Mor Hapus - Gwenllian Ellis
    • Sgen i’m Syniad - Gwenllian Ellis
    • V + Fo - Gwenno Gwilym
    • Oedolyn(ish) - Melanie Owen
    • This is Going to Hurt – Adam Kay
    • Twas The Nightshift Before Christmas – Adam Kay
    • O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
    • Noughts & Crosses - Malorie Blackman
    • Think Again – Jacqueline Wilson
    • Little Fires Everywhere - Celeste Ng
    • Camu – Iola Ynyr
    • How to Survive an Affair: A Practical Guide – Henry Widdicombe
    • Angus, thongs and full-frontal snogging – Louise Rennison

    Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    33 min
  • Geraint Iwan

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.

    Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.

    Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.

    Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog


    Rhestr Ddarllen

    • Congrinero - David Meredith
    • Rownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue Scullard
    • Beibl y Plant Mewn Lliw
    • I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig Wyn
    • Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan
    • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
    • Yn y Gwaed - Geraint V. Jones
    • Tân ar y Comin - T. Llew Jones
    • Jaws - Peter Benchley
    • Jurassic Park - Michael Crichton
    • Do Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. Dick
    • The Gone-Away World - Nick Harkaway
    • Ready Player One - Ernest Cline
    • I am Legend - Richard Matheson
    • Trioleg Extracted – RR Haywood
    • I, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan Partidge
    • The Rivers of London - Ben Aaronovitch
    • Cyfres The Bourne Identity – Roberts Ludlum
    • Straeon byrion Ruth Rendell
    • And Then There Were None - Agatha Christie
    • Cyfres A Game of Thrones - George R. R. Martin
    • The Martian – Andy Weir

    Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    35 min
  • Sioned Erin Hughes

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.

    Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt.

    Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.

    Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
    Recordio sain: Aled Wyn Hughes
    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.


    Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

    • James a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
    • Nab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin Meek
    • Moddion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
    • Matilda - Roald Dahl, addasiad Elin Meek
    • The Book Thief - Markus Zusak
    • I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’Farrell
    • The Choice - Edith Eger
    • Casglu Llwch – Georgia Ruth
    • Tell Me Who I Am - Georgia Ruth
    • Camu – Iola Ynyr
    • Nelan a Bo – Angharad Price
    • The Bell Jar – Sylvia Path
    • Reason To Stay Alive – Matt Haig
    • A Thousand Splendid Suns - Khaled Hosseini
    • The Kite Runner - Khaled Hosseini
    • Lan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt Lewis
    • Devotions – Mary Oliver

    Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    31 min
  • Huw Stephens

    Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo.


    Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records.


    Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Recordio sain: Aled Wyn Hughes

    Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.


    Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

    • Y Dyn'i hun – Hywel Gwynfryn
    • The Twits – Roald Dahl
    • Boy – Roald Dahl
    • Paid a Bod Ofn – Non Parry
    • All the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg James
    • Is-Deitla'n Unig - Emyr Glyn Williams
    • Diolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap Dafydd
    • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic Stephens
    • A Room Above a Shop - Anthony Shapland
    • Bechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen
    • Cam o’r Tywyllwch – Rhys Mwyn
    • Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn Siôn
    • Atgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) Jones
    • Atgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai Toms
    • Cerddi’r Ystrad – Lyn Ebenezer
    • Lladd Arth – Kayley Roberts
    • Of Mice and Men – John Steinbeck
    • Y Tŵr – Gwenlyn Parry
    • Zonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia Bowen
    • Oedolyn (ish) – Melanie Owen
    • Cylchgrawn Folding Rock
    • O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
    • Gwlad Bardd – Rhys Iorwerth
    • O! Tyn y Gorchudd – Angharad Price
    • The Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd Jones
    • Nelan a Bo – Angharad Price
    • Yr Odliadur – Roy Stephens
    • Salem a Fi – Endaf Emlyn
    • Ffansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, Klust

    Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

    33 min
  • Eirini Sanoudaki

    Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki.

    Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog. 

    Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo.

    Recordiwyd y bennod yn Shed, Y Felinheli

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Sain: Aled Hughes

    Rhestr Ddarllen

    • Llyfrau Zoe Skolding
    • Llyfrau Alys Conran
    • Llyfrau Angharad Price
    • Pumed Cainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)
    • Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
    • Il Nome Della Rosa - Umberto Eco (Bompiani)
    • Sali Mali - Mary Vaughan Jones (Atebol)
    • Y Tywysog Bach - Antoine de Saint-Exupéry (Edition Tintenfaß)
    • The Catcher in the Rye -   J. D. Salinger (Penguin)
    • One Moonlit Night / Un Nos Ola Leuad - Caradog Prichard (Y Lolfa)


    Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma.

    33 min
  • Joe Healy

    Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.  Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca.

    Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth.

    Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.

    Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

    Sain: Aled Hughes


    Rhestr Ddarllen

    • Y Lindysyn Llwglyd Iawn / TheVery Hungry Catepillar  – Eric Carle (Dref Wen)
    • Little Rabbit Foo Foo – Michael Rosen (WalkerBooks)
    • Llyfrau Tomas y Tanc
    • Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
    • Cwlwm – Ffion Enlli (Y Lolfa)
    • The Lord of the Rings – J. R. Tolken (Harper Collins)
    • The Hobbit - J. R. Tolken (Harper Collins)
    • Of Mice and Men – John Steinbeck (PenguinBooks)
    • Paddy Clarke Ha, Ha Ha – Roddy Doyle (Penguin)
    • To Kill a Mockingbird – Harper Lee (Penguin)
    • Pigeon  / Pijin - Alys Conran (Parthian)
    • Open Up – Thomas Morris (Faber)
    • Cyfres Stori Sydyn
    • The Handmaid's Tale - Margaret Atwood (Vintage)


    Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

    Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma:https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/

    29 min

About Sut i Ddarllen

From the publisher's feed

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.