Sut i Ddarllen

Malachy Edwards


Listen Later

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.

Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn.

Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.

Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn.

Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes

Recordio sain: Aled Wyn Hughes

Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Rhestr Ddarllen

  • Thrasher Magazine
  • Kerrang
  • Rolling Stone
  • Cyfres Artemis Fowl - Eoin Colfer
  • 1984 - George Orwell
  • The Handmaid's Tale - Margaret Atwood
  • Doctor Faustus - Christopher Marlowe
  • The Autobiography of Benvenuto Cellini - Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne Macdonell
  • The Interesting Narrative and Other Writings - Olaudah Equiano
  • Pam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Simon Brooks
  • Decolonizing Language and Other Revolutionary Ideas - Ngugi wa Thiong'o
  • The Islander - Tomás O'Crohan
  • Y Fro Dywyll - Jerry Hunter
  • Sgythia - Gwynn ap Gwilym
  • Ymbelydredd - Guto Dafydd
  • Lloerganiadau - Fflur Dafydd
  • Anfarwol - Peredur Glyn
  • Te yn y Grug - Kate Roberts
  • Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
  • Gweithiau Daniel Owen

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Sut i DdarllenBy Cyngor Llyfrau Cymru