Sign up to save your podcasts
Or

Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.
Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi.
O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.
Cyflwynydd: Gwenllian Ellis
By BBC Radio CymruMae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.