Gwrachod Heddiw

Gwrachod Heddiw

By Mari ElenSociety & Culture
Download on the App Store

Gwrachod Heddiw episodes

  • Trafod hefo Meilir Rhys

    Send a text

    Mynd i'r Bala mewn cwch banana? 

    Na, mynd i'r Bala i drafod patriarchaeth, bod yn driw i chdi dy hun rhywioldeb a llawer mwy hefo' brodor o'r ardal... yr Actor, Cyflwynydd, Podlediwr o fri Meilir Rhys. 

    Yn y sgwrs bwerus, hwyl a thyner yma, mae Mari yn trafod popeth Gwrachaidd hefo Meilir, gan gynnwys ei fagwraeth, ei gariad at drawsnewid ffurf ac wrth gwrs Ru Paul. 

    Gwrandewch, Mwynhewch...


    ...byddwch wych, byddwch wrachaidd xoxo



    59 min
  • Trafod hefo Lisa Jên

    Send a text

    Yn y bennod yma, mae Mari'n eistedd i lawr gyda'r actores, cantores, perfformiwr, a chydlynydd agosatrwydd Lisa Jên Brown ym mro ei mebyd, Bethesda. Mae'r ddwy yn sgwrsio am ddarganfod eu llwyth, byw yn driw i'w hunain, a'r holl anturiaethau hudolus a gwrachaidd mae Lisa wedi bod yn eu gwneud. Peidiwch â cholli'r sgwrs ysbrydoledig a swyngyfareddol hon!


    Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd ✨

    In this episode, Mari sits down with the brilliant actress, singer, performer, and intimacy coordinator Lisa Jên Brown in her hometown of Bethesda. They chat about finding their tribe, embracing your authentic self, and all the magical, witchy adventures Lisa’s been up to. Don’t miss this inspiring and enchanting conversation!

    1 hr 23 min
  • Trafod hefo Angharad Tomos

    Send a text

    "Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." 

    Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw.  Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes,  mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri. 

    Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
    Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf.
    Diolch i Frân Wen am yr offer Sain. 

    1 hr 36 min
  • Trafod hefo Caryl Burke

    Send a text

    Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke!

    Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynulleidfa byw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy am sgwrs di-flewyn-ar-dafod am gathod, galar, comedi a boobs. Rydyn ni'n plymio'n ddwfn i'r hyn sy'n gwneud Caryl yn debycach i wrach heddiw - boed yn gasineb at gathod, ei synnwyr gomedi hudolus, neu ei phersbectif unigryw ar fywyd. Gyda digon o chwerthin, eiliadau gonest, dyma'r cyntaf o'i fath ar gyfer y gyfres yma.

    Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
    Diolch i Tafarn y Plu am gefnogi a cynnig cartref mor braf.
    Diolch i Frân Wen am yr offer Sain ac i Lewis Williams am weithio'r offer Sain.


    Welcome back to the world of Gwrachod Heddiw! This is the first episode in our third Series, and it's a privilege to introduce comedian Caryl Burke.

    In this funny and heartfelt episode, comedian Caryl Burke joins us in front of a live audience at Tafarn y Plu, Llanystumdwy for a frank chat about cats, grief, comedy and boobs. We dive deep into what makes Caryl more like a witch today - whether it's her hatred of cats, her magical sense of comedy, or her unique perspective on life. With plenty of laughs, honest moments, this is the first of its kind for this series.

    This series has been funded by Gwynedd Council's and the British Governments Ignite fund.

    54 min
  • Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.

    Send a text

    Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan.  Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! 

    Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo

    1 hr 40 min
  • Trafod Hefo Llinos Anwyl

    Send a text

    Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau. 

    1 hr 2 min
  • Trafod Hefo Emmy Stonelake

    Send a text

    Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨ 

    1 hr 2 min
  • Trafod Hefo Mirain Fflur

    Send a text

    Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. 
    Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. 

    Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO

    1 hr 3 min

About Gwrachod Heddiw

From the publisher's feed

Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.