Hogyn ei filltir sgwar ydi Elgan Jones, wedi ei eni a’i fagu yn Aberdaron ym mhen pella Llŷn. Yn dilyn problem iechyd go frawychus, bu rhaid i Elgan drawsnewid ei fywyd yn gyfan gwbl – ac mae sut yr aeth ati i wneud hynny yn rhyfeddol.. Dyma sgwrs sionc a diddorol sy’n dangos cymeriad hwyliog Elgan, ond sydd hefyd yn dangos ei wytnwch a’i benderfyniad i fyw bywyd ar ei orau.