Byw ar dy ora'

Byw ar dy ora'

Download on the App Store

Byw ar dy ora' episodes

  • Pennod 10 - Sgwrs efo Elgan Jones
    Hogyn ei filltir sgwar ydi Elgan Jones, wedi ei eni a’i fagu yn Aberdaron ym mhen pella Llŷn. Yn dilyn problem iechyd go frawychus, bu rhaid i Elgan drawsnewid ei fywyd yn gyfan gwbl – ac mae sut yr aeth ati i wneud hynny yn rhyfeddol.. Dyma sgwrs sionc a diddorol sy’n dangos cymeriad hwyliog Elgan, ond sydd hefyd yn dangos ei wytnwch a’i benderfyniad i fyw bywyd ar ei orau.
    43 min
  • Pennod 9 - Sgwrs efo Robin Aled
    Podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny. Alaw, sylfaenydd Nerth dy Ben, sy'n chwilio am yr atebion trwy gael sgyrsiau gonest, hwyliog ac annisgwyl efo cymeriadau lliwgar o bob cwr o Gymru.

    Peilot ydi Robin Aled, yn wreiddiol o Rhostryfan. Er ei fod yn trafeilio’r byd, mae Robin yn cario ei Gymreictod ar ei gefn i ble bynnag mae’n mynd. Dyma sgwrs hamddenol rhwng dau ffrind sy’n cyffwrdd ar themau megis dyfalbarhad, dysgu a phwysigrwydd gwarchod y bobl sydd o dy gwmpas.
    40 min
  • Pennod 8 - Sgwrs efo Lois Owens
    **Mae'r bennod yma yn cynnwys sgwrs am farwolaeth a rhoi organnau**

    Mae gan Lois Owens o Bwllheli stori eitha’ anghyffredin. Mae hi’n byw gyda chyflwr ar yr iau sy’n golygu ei bod hi wedi gorfod cael tair trawsblaniad trwy gydol ei bywyd. Dyma sgwrs ddiddorol rhwng Alaw a Lois sy’n trafod pwysigrwydd rhoi organnau, cael stwythr cadarn i fywyd a sut mae rhywun yn dygymod a dod dros sefyllfaoedd heriol fel un Lois – yn gorfforol ac yn feddyliol.
    1 hr
  • Pennod 7 - Sgwrs efo Dafydd Davies-Hughes
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Mae Dafydd Davies-Hughes, yn wreiddiol o ardal Cricieth ond rwan wedi ymgartrefu yn Rhiw ym Mhen Llŷn, yn berson sydd yn gwsigo sawl het mewn bywyd.
    Mae o’n saer coed, yn storïwr, yn grefftwr, yn athro ond yn fwy na dim, mae o’n berson sydd yn mwynhau antur bywyd.
    Dyma sgwrs andros o ddiddorol rhwng Alaw a Dafydd sy’n ymlwybro’n braf trwy gwahanol themau, ond sy’n canolbwyntio’n bennaf ar un peth pwysig yn ein byd ni heddiw: bod yn bresennol. 
    1 hr 1 min
  • Pennod 6 - Sgwrs efo Cadi Mai
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Fe adawodd Cadi Mai Ben Llŷn am Vietnam bron i chwe mlynedd yn ôl. Mae hi wedi ymgartrefu yno bellach ac yn gweithio fel athrawes mewn ysgol. Dyma sgwrs gonest,  hwyliog ac adlewyrchol rhwng Alaw a Cadi sy’n sôn am sut a pham mae rhywun yn gallu newid eu bywyd er gwell.
    47 min
  • Pennod 5 - Sgwrs efo Sara Mai
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Therapydd a hyfforddwr personol o Ynys Môn ydy Sara Mai sy’n cyfuno’r ddau sgil i gynnig seicffit, math o therapi sy’n defnyddio ymarfer corff i helpu ni siarad. Yn y bennod hon bydd Alaw a Sara yn trafod pwer ymarfer corff a symyd, y pwysigrwydd o beidio cymharu ein hunain âg eraill, bywyd mewn degawdau a fersiwn newydd o’r gân pen, ’sgwydda, coesa’, traed…
    45 min
  • Pennod 4 - Sgwrs efo Dr Eleri Jones
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Seicolegydd Chwaraeon a darlithiwraig ym Mhrifysgol Bangor ydi Dr Eleri Jones. 

    Yn y bennod hon bydd Alaw ac Eleri yn sgwrsio am bethau fel; be ydi seicoleg chwaraeon a sut y gallwn ni gyd elwa ohono. Sut mae bod yn rhan o dîm yn chwarae rôl mewn bywyd bob dydd? A pwysigrwydd y petha' allwn ni ei wneud, ermwyn ‘nabod ein hunain yn well.
    46 min
  • Pennod 3 – Sgwrs efo Mark Williams
    Mark Williams, neu Mark LIMB-Art fel mae rhan fwyaf o bobl yn ei ’nabod o, ydy’r unigolyn ysbrydoliedig sydd, ynghyd â’i wraig Rachel, tu ôl i’r cwmi LIMB-Art. Dylunio gorchuddion coes prosthetig lliwgar a llawn cymeriad mae’r cwmni, ac mae ysbryd positif, cefnogol ac uchelgeisiol Mark, sydd hefyd yn gyn-nofiwr paralympaidd, yn disgleirio trwy’r gwaith – a thrwy’r bennod arbennig hon hefyd. Dyma sgwrs i ysbrydoli, i ail-feddwl sut mae rhywun yn edrych ar fywyd ac i gofio – mai bod yn glên ydi un o'r pethau pwysicaf yn y byd.
    46 min
  • Pennod 2 - Sgwrs efo Rhys Yaxley
    Mae Rhys Yaxley o ardal Glyn Dyfrdwy yn berson sy’n hoffi cerddoriaeth, cymdeithasu ac antura. Wrth ei waith mae’n seicotherapydd sy’n treulio rhan fwyaf o’i amser yn gweithio efo cartrefi plant. Yn y bennod hwyliog hon, bydd Rhys ac Alaw yn sgwrsio am bethau fel pŵer cerddoriaeth, pwysigrwydd gwthio ein hunain i wneud pethau anghyfforddus, be ydi rhyddid a pam y bysa Rhys y person gwaetha’ i’w herwgipio…

    Ewch i'n gwefan www.nerthdyben.cymru i ddarganfod mwy am ein gwaith
    35 min
  • Pennod 1: Sgwrs efo Elin Crowley
    Aritst a Mam i dri o blant ydi Elin Crowley o Fachynlleth. 

    Yn y bennod hon bydd Alaw ac Elin yn sgwrsio am bob math o bethau yn cynnwys: trystio dy reddf a gwybod be sy’n dda i chdi, y broblem efo’r diwydiant iechyd a lles ac ymgyrch i ddod a troi fyny ar stepan drws pobl yn ôl! 

    www.nerthdyben.cymru
    37 min

About Byw ar dy ora'

From the publisher's feed

Heloooo â chroeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau?  A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny (os ydio o…