Y Busnes Rhedeg 'Ma

Pennod 3 - Angharad Davies


Listen Later

Ym mhennod diweddaraf y podlediad mae Owain yn sgwrsio gyda'r athletwraig elité, Angharad Davies, Mae Angharad yn dod yn wreiddiol o Lanymddyfri, ond bellach yn byw yn Galicia, Sbaen. Ar ôl serennu fel rhedwraig ieuenctid ac wrth gamu i'r categori oedolion, bu iddi gymryd egwyl o athletau am gwpl o flynyddoedd. Bellach mae nôl yn cystadlu ar y trac dros y pellteroedd canolig, ac yn rhedeg yn well nag erioed. Yn y cyfweliad mae'n trafod her hyfforddi yn ystod y cloi mawr, cydraddoldeb i ferched yn y byd rhedeg a sawl pwnc amserol arall.

Yn ystod y cyfweliad rydym yn trafod achos penodol yn ymwneud â diogelwch merched wrth redeg yn Sbaen. Dyma ddolen i'r erthygl sy'n dyfynu Angharad ynglŷn â hyn - https://www.runnersworld.com/women/a28368894/running-as-a-woman-in-spain/


Hefyd yn y podlediad yma, newyddion am record newydd yn Rownd y Paddy Buckley, llwyddiant pellach i Melissa Courtney-Bryant a chanlyniadau 10k Pont Hafren. 'Golau' gan .magi ydy'r dewis o gerddoriaeth yn y bennod yma - https://www.youtube.com/watch?v=oNbY1DcKRMc 


...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Busnes Rhedeg 'MaBy Owain Schiavone