Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.