Mae ail bennod podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma, gydag Owain Schiavone, yn croesawu Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans - dau redwr da iawn, sydd hefyd yn gyfrifol am wefan sy'n rhoi sylw i redeg yng Nghymru, Running Review Cymru (https://runningreviewcymru.com). Mae Alaw yn athletwraig ers yn ifanc, yn un o redwyr gorau Cymru, ac wedi cynrychioli ei gwlad ar sawl achlysur. Mae ei phartner, Arwel, yn gyn bêl-droediwr ac yn fwy newydd i'r gamp ond yn datblygu'n gyflym i fod yn rhedwr cystadleuol.