Y Busnes Rhedeg 'Ma

Pennod 4 - Peter Gillibrand


Listen Later

Ym mhennod ddiweddaraf y podlediad rhedeg Cymraeg mae Owain Schiavone'n cael sgwrs gyda'r rhedwr marathon, a boi iawn, Peter Gillibrand (@GillibrandPeter). Mae Peter yn newyddiadurwr fu'n gohebu tipyn ar farathon Llundain elen - y ras elite a rhithiol - ac a fu'n ddigon ffodus i holi Paula Radcliffe ac Eliud Kipchoge wrth wneud hynny. 

Roedd Peter ei hun yn rhedeg y marathon rhithiol wedi'i wisgo fel seren er mwyn codi arian at elusen Mencap - gallwch ei noddi nawr https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=PeterGillibrand1&pageUrl=1

Mae agwedd Peter at redeg, a'r modd mae wedi mynd ati i ddefnyddio rhedeg fel modd o helpu eraill yn ysbrydoliaeth. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Y Gorwel' gan Ghostlawns, fydd ar yr albwm Motorik - allan ar 30 Hydref. 

View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Busnes Rhedeg 'MaBy Owain Schiavone