Mae Gethin yn ymgynghorydd addysg annibynnol sydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yma’n Nghymru ac ar draws y ffin i ddatblygu eu cwricwlwm. Cyn iddo fod yn ymgynghorydd, roedd yn athro addysg gorfforol yn Ysgol David Hughes cyn symud ymlaen i weithio i gonsortia’r gogledd. Yn y bennod hon, bydd Gethin yn ein helpu ni ddeall asesu a chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o ysgolion ar hyn o bryd.