Mae Judith yn nyrs, athrawes ac yn ymgynghorydd iechyd a lles annibynnol sydd wedi gweithio gyda sawl ysgol, dalgylch ac awdurdod i'w hyfforddi, cynghori a’u harwain ar sut i addysgu iechyd a lles. Yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o’i hamser yn mynd i gefnogi ysgolion ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y bennod hon, bydd Judith yn trafod sut i addysgu’r Cwricwlwm Cydberthynas a Rhywioldeb a sut i oresgyn rhai o’r heriau mae ysgolion ar draws Cymru yn eu hwynebu.