Mae Jayne yn Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Sir Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi ar secondiad yn y consortia lleol fel Ymgynghorydd Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn y bennod hon byddwn yn trafod pob dim ynglyn a lles. Ers i Jayne fod yn Bennaeth ar yr ysgol mae sawl astudiaeth achos Estyn wedi cael eu hysgrifennu am y gwaith mae’r ysgol wedi ei wneud i gynyddu lles a’r effaith mae hynny wedi gael ar y plant a’r gymuned ehangach.