Mae Lee yn Bennaeth yn Ysgol Brynaman. Ar ol eu harolwg yn Hydref 2023, cafodd yr ysgol ei chanmol am sut mae’n nhw’n llwyddo i ysgogi’r disgyblion i siarad Cymraeg. Yn dilyn hyn, mae Estyn wedi rhannu eu harferion mewn astudiaeth achos arfer effeithiol. Wrth gwrs, mae cael disgyblion i siarad Cymraeg yn her mae nifer o ysgolion ledled Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod yr hyn mae Ysgol Brynaman yn ei wneud i ddatblygu’r Gymraeg i ennill y clod haeddiannol gan Estyn.