
Sign up to save your podcasts
Or


Beth ydy'r BBC erioed wedi gwneud i ti? Kieran Miller sy'n holi cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys ar drothwy cyhoeddiad mawr am sut y bydd y gorfforaeth yn arbed £9m.
Kieran sy'n holi fydd 'na swyddi i fyfyrwyr newyddiaduraeth wedi iddyn nhw raddio, a sut mae Garmon yn perswadio'r penaethiaid yn Llundain bod gwerth gwarchod y ddarpariaeth Gymraeg ar adeg o doriadau.
Yn y bennod hon, mae Myfi Morris, myfyrwraig yn y flwyddyn gyntaf yn JOMEC, yn cael sgwrs gyda Caitlin Lovell - newyddiadurwraig sydd yn arbenigo ar lwyfannau digidol gyda ITV Cymru.
Yn y cyfweliad, mae Caitlin yn rhannu ei stori o weithio gyda Hansh Dim Sbin, yn gweithio ar raglen Tanwen & Ollie, ac yn paratoi i weithio ar y darllediad sydd ar ddod o etholiad y Senedd.
Jacob Morris, gohebydd gwleidyddol digidol Newyddion S4C yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn.
Ifan Meredith o'r ail flwyddyn sy'n ei holi am y byd newyddion digidol.
Yn y bennod hon, mae Elen Morlais, myfyrwraig yn yr ail flwyddyn sy’n astudio’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, yn cael sgwrs ddifyr gyda Daf James - dramodydd, cyfarwyddwr, cyfansoddwr ac awdur anhygoel sydd wedi gwneud enw iddo’i hun ar draws Cymru a thu hwnt.
Mae Daf yn ffigwr blaenllaw ym myd creadigol cyfoes yng Nghymru, gyda gweithiau fel Llwyth, Tylwyth, Lost Boys and Fairies a llawer mwy wedi ennill canmoliaeth eang. Yn y podlediad hwn, cawn glywed mwy am ei daith greadigol, ei ysbrydoliaeth, a’i brofiadau’n gweithio ym myd theatr, cyfryngau a ffilm, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Sara Esyllt, un o gyflwynwyr Newyddion S4C o'r BBC yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn.
Gabrielle Hughes o'r ail flwyddyn sy'n ei holi hi am golur a rhywiaeth yn y byd newyddiadurol a gwranda i'r diwedd i glywed pwy fyddai Sara yn gollwng popeth i gael cyfle i'w holi!
Yn y bennod hon, Ffion Evans o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gydag Elan Iâl, cyfarwyddwr cwmni Libera.
Gyda 8 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau, mae Elan yn arbenigo yn y maes cyfryngau cymdeithasol, digidol a marchnata.
Ciaran Jenkins o Channel Four News yw gwestai JOMEC Cymraeg yn y rhifyn arbennig yma - Sgŵps, Sgandals a Sgrolio: Pwy sy’n becso am y Newyddion?
Cafodd y podlediad hwn ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd eleni gyda un o’n graddedigion, Nest Jenkins o ITV yn holi.
Wedi blwyddyn heriol i’r byd newyddiadurol, Ciaran sy’n lleisio barn am newyddiaduraeth Cymru, rôl gohebwyr, sut i ad-ennill ffydd pobl mewn newyddion a hefyd, fel chwaraewr cello o fri - pa newyddiadurwr enwog fasai e’n hoffi gwneud deuawd â nhw?
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Tegan Rees. Mae Tegan wedi graddio o JOMEC haf yma, 2024.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Megan Taylor. Mae Megan yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Mae Megan hefyd yn dod o Bontypridd, cartref Eisteddfod 2024.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Molly Sedgemore. Mae Molly yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i S4C. Mae Molly hefyd yn dod o RCT, lleoliad Eisteddfod 2024.
From the publisher's feed

2,028 Listeners

0 Listeners